Neidio at y cynnwys

S4C

Hybu Rygbi

NEWYDDION DIWEDDARAF

Sêr Opera Sebon yn sgleinio yng Nghlwb Rygbi Bro Ffestiniog

Fel rhan o brosiect diweddaraf apêl Hybu Rygbi S4C, fe groesawodd Clwb Rygbi Bro Ffestiniog ddau o sêr Pobol y Cwm, Gillian Elisa a Rhys ap William, i’r Clwb yn ddiweddar.

Fe wahoddwyd yr actorion i’r Clwb i helpu dathlu hysbysfyrddau newydd sydd wedi'u gosod o gwmpas y cae. Bu’r ddau hefyd yn gwylio'r gêm allweddol rhwng tîm rygbi Bro Ffestiniog a chlwb Bethesda yng Nghynghrair y 5ed Adran Gogledd Cymru, gyda'r tîm cartref yn ennill o 20 pwynt i 11.

Bu Gillian a Rhys, sy'n chwarae Sabrina a Cai yn y gyfres sebon a gynhyrchir i S4C gan y BBC, yn troedio'r llinell ystlys fel rhan o apêl Hybu Rygbi, sy'n codi ymwybyddiaeth o achosion da yn ymwneud â rygbi.

Meddai Cadeirydd y Clwb, Tony Crampton, "Yn dilyn chwe mis o weithgareddau codi arian a sicrhau nawdd, roedd yn braf cael dathlu a diolch i bawb am eu holl waith caled."

Darllen mwy am Hybu Rygbi yng Nghlwb Rygbi Bro Ffestiniog

Sut i gymryd rhan

Os ydych chi â diddordeb mewn trefnu digwyddiad codi arian yn gysylltiedig â rygbi, ac awydd cymorth gan S4C, yna anfonwch ffurflen gais atom ni ar-lein neu gysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C, 0870 6004141.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales