Diweddarwyd: 17 Gorfennaf 2008
Gyda llai nag wythnos ar ôl tan Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, mae’n bleser gan y tîm cynhyrchu gyhoeddi amseroedd darlledu Y Sioe/08.
Ymunwch â ni am ddarlledu byw dyddiol o 10:00 hyd 12:20, ac eto yn y prynhawn o 14.20 tan 16.00, sef dwy awr yn ychwanegol bob dydd tan chwech o’r gloch ddydd Mercher. Dyma gyfle i fwynhau holl gystadlaethau’r wythnos. Gallwch hefyd wylio awr o uchafbwyntiau’r sioe bob nos ar S4C o 20:25 tan 21:25. Yn dilyn llwyddiant llynedd, mae Sioe/08 eleni eto'n cynnig gwasanaeth rhyngweithiol drwy wasanaeth y botwm coch lle gallwch wylio cystadlaethau’r Prif Gylch yn eu cyfanrwydd. Os nad ydych yn gallu cyrraedd teledu yn ystod yr wythnos, yna gall y wefan hon ddod â holl elfennau’r Sioe yn fyw i’ch cyfrifiadur.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales