Neidio at y cynnwys

S4C

Croeso nôl i Rasus ar Garlam

Mae cyfres newydd sbon yn dechrau ar 12 Mai. Bydd Shân Cothi a Brychan Llŷr yn ymweld â rasus pwynt-i-bwynt o Sir Benfro i Ben-y-bont ar Ogwr, gan gwrdd â rhai o hyfforddwyr a jocis gorau'r wlad. Wyn Gruffydd fydd yn sylwebu a chawn ddilyn wefr y ras i weld ceffyl pa berchennog fydd ar y brig.

"Roedd yr ymateb i’r gyfres gynta'n wych. I’r rheiny nad ydyn nhw' diddori mewn ceffylau, rwy’n credu bo nhw’n mwynhau cyffro'r rasio! Ac i’r rheiny sy’n arbenigwyr, maen nhw’n cael pleser mawr o weld y gamp ar y teledu."
BRYCHAN LLŶR

Rhaid cyfaddef bod rasio pwynt-i-bwynt yn faes gweddol newydd i mi. Ond dwi wrth fy modd yn dysgu mwy am y grefft o hyfforddi ceffyl rasio. Mae’n braf hefyd gweld bod cefn gwlad Cymru yn parhau i fod mor angerddol am y traddodiad.
SHÂN COTHI

Dau gyfarfod olaf y gyfres sydd i'w gweld yr wythnos hon, sef Rasus Cynghrair Cefn Gwlad, a chyfarfod terfynol y tymor yn Nhrecoed, Sir Benfro.

 

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales