Tendrau

Gwahoddiad i Dendro - Gwasanaeth Dysgwyr i S4C

Mae S4C yn gwahodd tendrau ar gyfer gwasanaeth cynhwysfawr i ddysgwyr Cymraeg, a fydd yn apelio at ddysgwyr o bob oed, gallu a diddordeb.

Lawrlwythwch gwybodaeth am y tendr yma

Gwahoddiad i Dendro - Cwpan Rygbi Ewrop 2008/9 a 2009/10

Mae S4C yn berchen ar yr hawliau ecscliwsif i ddarlledu yn yr iaith Gymraeg, ar wasanaethau teledu rhad ac am ddim, uchafbwyntiau Cwpan Rygbi Ewrop (a adnabyddir fel Cwpan Heineken ar hyn o bryd) am y ddau dymor nesaf. Gwahoddir cynhyrchwyr i gynnig am y cytundeb i ddarparu pecyn o raglenni uchafbwyntiau a fydd yn ymateb i ddisgwyliadau a dyheadau S4C.

Fe fydd cytundeb comisiynu drafft yn cael ei gyhoeddi erbyn 16 Gorffennaf.

Lawrlwythwch gwybodaeth am y tendr yma

Cytundeb drafft - Cwpan Rygbi Ewrop 2008/9 a 2009/10

Gwahoddiad i Dendro Darpariaeth Golff 2008, 2009 a 2010

Mae S4C wedi sicrhau hawliau uchafbwyntiau byr o bencampwriaethau’r Gylchdaith Ewropeaidd a PGA America ynghyd ag amryw o gylchdeithiau eraill.

Mae S4C hefyd wedi sicrhau’r hawliau uchafbwyntiau nosweithiol yn ogystal â’r Seremoni Agoriadol o gystadleuaeth Cwpan Ryder 2010 sydd yn cael ei chynnal ar gwrs Celtic Manor, Casnewydd.

Gwahoddir cynhyrchwyr i gynnig am y cytundeb i ddarparu pecyn o raglenni uchafbwyntiau a fydd yn ymateb i ddisgwyliadau a dyheadau S4C. Mae S4C yn gwahodd syniadau am ddarpariaeth a fydd yn adlewyrchu ac yn cyflwyno holl fwrlwm golff yng Nghymru a’r byd mewn modd adloniadol ac apelgar. Dylid manteisio ar gyrsiau, lleoliadau a phersonoliaethau’r gamp yng Nghymru, er mwyn creu rhaglenni sy’n apelio at gynulleidfa eang, cynulleidfa sy’n dilyn y gamp a’r rheini sydd heb ymddiddori ynddo hyd yn hyn.

Bydd gofyn hefyd i’r ddarpariaeth adlewyrchu holl gyffro’r paratoadau ar gyfer cystadleuaeth Cwpan Ryder 2010.

Lawrlwythwch gwybodaeth am y tendr yma

Noder y dylid cynnwys y cyllidebau isod yn eich cais:

  • Cyllideb fanwl ar gyfer rhaglenni wythnosol 2008
  • Cyllideb fanwl ar gyfer rhaglenni o Gwpan Ryder 2010
  • Amcanbris ar gyfer darpariaeth wythnosol 2009 a 2010