CROESO I WEFAN HACIO
Hacio yw’r unig gyfres materion cyfoes teledu ar gyfer pobl ifanc. Yn cael ei ddarlledu pob nos Iau mae’r rhaglen yn delio gyda phob math o faterion cyfoes syn effeithio pobl ifanc Cymru.
Mae ein newyddiadurwyr yn awyddus i gael ymateb oddi wrth y gwylwyr, felly os oes gyda chi unrhyw stori plîs gysylltwch â ni ar 08448 810266 neu anfon e-bost i hacio@itv.com.
HACIO YR WYTHNOS HON: NOS IAU 17.07.08 22:30, TRAFODAETH 23:00
Hacio Arbennig:
Newid Hinsawdd – Ydych chi’n poeni?
Ddechrau’r flwyddyn fe nath Adam Amor ennill gystadleuaeth i ddod yn un o hyrwyddwyr newid hinsawdd Llywodraeth y Cynulliad. Mae e’n gobeithio perswadio pobl ifanc Cymru i newid eu ffordd o fyw ac i fod yn fwy gwyrdd.
Mae Hacio yn dilyn Adam ar daith i’r Iseldiroedd i weld rhai o gynlluniau gwyrdd y wlad.
Yn y rhaglen drafodaeth sy'n dilyn, fe fydd Hacio yn ymweld â chanolfan technoleg amgen Machynlleth, ac yn holi rhai o bobl ifanc yr ardal beth allwn ni yng Nghymru neud i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Gwyliwch y penodau diweddara ar S4C band llydan
I ymweld â wefan 'Y Byd ar Bedwar' cliciwch yma
POB NOS IAU
S4C DIGIDOL