Neidio at y cynnwys

S4C

o flaen dy lygaid

O Flaen Dy Lygaid: Yr Uchel Siryf

Bydd y rhaglen olaf yn y gyfres yn dilyn Dewi Wyn Roberts yn swydd Uchel Siryf Gwynedd.

Yn wreiddiol, gwarchod Barnwr yr Uchel Lys pan fyddai’n dod i’r sir oedd swyddogaeth yr Uchel Siryf, fel y mae’r cleddyf yn ei wisg seremonïol yn dyst, ond bellach diddanu a chynnig lletygarwch i’r barnwr yw’r swyddogaeth.

Mae Dewi Wyn Roberts, a aned ym Mhen Llŷn, a’i fagu yn Ficerdy Pentraeth, Môn, yn benderfynol o roi rôl fwy cyfoes i’r hen safle hwn.

“Dw i’n meddwl bod angen codi proffil y swydd ac mae’n rhaid cael pwrpas newydd i’r swydd,” meddai Dewi.

“A dyna beth dw i’n drio ei wneud. Dydan ni ddim mewn politics, dydan ni ddim yn gynghorydd... Dw i’n teimlo bod ni trwy’r swydd yn edrych ar ôl pawb yn y gymuned – pobol sy’n edrych ar ôl yr henoed, pobol sy’n edrych ar ôl yr anabl, dydi pobol ddim yn cofio dweud diolch wrthyn nhw a dw i’n teimlo mai part o fy swydd i ydi mynd allan a dweud ‘ylwch, dan ni yn ddiolchgar.’”

Wrth ymgymryd â’r swydd, fe addawodd iddo’i hun y byddai’n ei defnyddio i godi arian i nifer o elusennau yn ystod y flwyddyn, yn arbennig at brif elusen yr Uchel Siryf, sef Trechu Trosedd, rhywbeth a arweiniodd at weithio’n agos gyda throseddwyr ifanc.

Mae swyddogaethau ffurfiol y swydd yn cymryd llawer o’i amser, ac mae’n eu gwneud gyda Sheila ei wraig yn dynn wrth ei ochr, ac fe’u gwelwn yn cyfarfod Tywysog Cymru ar ymweliad swyddogol â Phrifysgol Bangor. Dod nôl i Wynedd i ymddeol a wnaeth Dewi a Sheila Roberts, ar ôl gyrfaoedd yn ddoctoriaid teulu yn Daventry, Swydd Northampton. Ond mae Dewi hefyd yn cael amser i fwynhau diddordeb arall, sef chwaraeon, a rygbi yn arbennig.

Bydd y rhaglen hefyd yn dilyn hynt y gŵr llwyddiannus hwn o’i ddyddiau cynnar yn Edern, Llŷn, i golli ei fam yn hogyn ifanc a chael ei fagu gyda’i chwaer hŷn ym Mhentraeth, i’w ddyddiau yn fyfyriwr yng Ngholeg Downing, Caergrawnt. Yn ogystal, ceir cyfweliad prin gyda Mr Ustus Roderick Evans, un o farnwyr disgleiriaf Cymru.

Mae un peth yn amlwg o’r rhaglen, mae Dewi yn ddyn cymdeithasol a brwd sy’n benderfynol o wneud y gorau o’r swydd tra’n ei dal am flwyddyn.

“Os ’dach chi ddim yn mwynhau eich hun,” meddai, “dach chi ddim yn gwneud y swydd yn iawn.”

Dolenni O Flaen Dy Lygaid:

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales