Neidio at y cynnwys

S4C

Gwasanaethau Atodol

Arwyddo

Golyga arwyddo ar y sgrîn gyfieithu deialog rhaglen i iaith arwyddo Prydain (BSL). Iaith weledol yw iaith arwyddion, gyda chystrawen unigryw, a gramadeg a geirfa ei hun.

Cyfieithydd sydd yn gyfrifol am y gwaith yma, a chaiff delwedd y person hynny ei osod ar y rhaglen.

Paratoir y gwasanaeth ar gyfer gwylwyr byddar, ac fe ddylai'r cyfieithydd neu'r cyflwynydd gyfleu'r rhaglen mewn steil sy'n addas ar gyfer cynulleidfa sydd ar y cyfan, yn byw yng Nghymru, neu sy'n medru derbyn S4C trwy blatfform Sky, a'r rheiny sydd â diddordeb yn y diwylliant Cymreig ayb.

Fel gwyliwr, nid oes angen i chi wneud unrhywbeth yn wahanol gan fod yr arwyddo ar gael i'n holl wylwyr.

Mae rhaglenni wedi'u harwyddo fel arfer i'w gweld ar brynhawn Sadwrn neu gellir eu gwylio ar-lein.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141, neu anfonwch ebost

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales