Neidio at y cynnwys

S4C

Amserlenni

S4C Digidol

Mercher 2008/05/14

12:00 Dysgu Am 12

Rhaglenni ar gyfer dysgwyr.

12:00 Talk About Welsh

Cyfres o ddramâu ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Gareth Roberts fydd yn egluro ambell ymadrodd newydd.

12:20 Ding Dong 888

Mwy o hwyl wrth ddysgu iaith gyda Beti a Bob.

12:28 Y Tywydd

Rhagolygon y tywydd.

12:30 Planed Plant Bach 888

Rhaglenni i blant ifanc.

12:30 Myffin y Mul 888

Beth sydd ar y gweill yng Nghaermulod heddiw?

Content options
12:45 Bob y Bildar 888

Dim gwybodaeth bellach ar gael ar hyn o bryd

13:00 Bws Parti - Parti Ditectif 888

Dewch gyda Lowri a'i ffrindiau ar daith yn y Bws Parti i barti arbennig yn llawn hwyl a sbri, lliwio a gêmau, canu a dawnsio.

Content options

13:15 Planed Plant Bach

Rhaglenni i blant ifanc.

13:15 Dic a Dei a Delyth - Barcud Delyth 888 / 889

Hynt a helynt y gweithwyr digrif sydd byth yn bell o drafferthion.

13:30 Wedi 7 888

Rhaglen gylchgrawn yn dilyn holl gyffro digwyddiadau'r dydd yng Nghymru.

Content options

14:00 Byd o Liw - J M W Turner 888 / 889

Mae'r cyflwynydd Osi Rhys Osmond yn ail ddarganfod rhai o'r lleoliadau hynny sydd wedi ysbrydoli arlunwyr dros y ddwy ganrif ddiwethaf; o ddarluniau godidog JMW Turner i bosteri rheilffordd y 1950au. Ymhob rhaglen, cawn gyfle i fwynhau gwerthfawrogiad gan Osi o lun yr arlunydd hanesyddol a gweld dau arlunydd cyfoes yn creu gwaith newydd gwreiddiol o'r union leoliad. Yn y rhaglen gyntaf, ymwelwn â Glannau'r Dyfrdwy. Yma, fe baentiodd Turner un o'i luniau dyfrlliw mwyaf nodedig o lannau'r afon ger Castell Fflint. Y ddau arlunydd cyfoes ar leoliad yw Iwan Gwyn Parry a'r fyfyrwraig celf, Gwennan Gruffydd.

Content options

14:30 Pobol y Cwm 888

Ceisia Ffion ei gorau i gael Hywel i faddau iddi, ond nid yw Hywel yn fodlon gwrando. Mae Dani'n ystyried taro bargen gydag un o'r Pwyliaid er mwyn cael yr arian gan y cylchgrawn, ond er mawr syndod iddi mae'n derbyn cynnig gan rywun annisgwyl. Mae Anita yn ymddiried yn Gaynor.

Content options

14:58 Y Tywydd

Rhagolygon y tywydd.

15:00 Wedi 3 888

Rhaglen fyw at ddant pawb yng nghwmni Elinor Jones a John Hardy.

15:25 Wedi 3 888

Rhaglen fyw at ddant pawb yng nghwmni Elinor Jones a John Hardy.

16:00 Planed Plant

Rhaglenni i blant.

16:00 Drewgi - Giglan

Mae Drewg yn ei chael yn anodd i stopio giglan, hyd yn oed pan mae Panda'n mynd ag ef ar antur ysbio fawr!

Content options
16:15 Sgorio Bach

Cyfres i gefnogwyr pêl-droed ymhobman!

Content options
16:25 Cer i Greu 888

Creu, creu a mwy o greu wrth i Sarra, Iwan a gweddill y criw ddangos digonedd o syniadau creadigol iawn!

Content options
16:50 Ffeil 888

Newyddion ar gyfer pobl ifanc yng nghwmni Catrin Heledd, Karen Peacock, Owain Wyn Evans ac Iwan Griffiths.

Content options

17:00 Planed Plant

Rhaglenni i blant.

17:00 Hafod Bedol

Cyfres animeiddiedig yn dilyn hynt a helynt grwp o ffrindiau sy'n ymweld â fferm geffylau Hafod Bedol.

17:25 Y Brodyr Adrenalini - Cangarws Cythryblus

Cartwn gwallgof yng nghwmni'r Brodyr Adrenalini o Réndøosîa. Mae Xan, Adi ac Enk yn cyflawni campau peryglus ac yn mwynhau anturiaethau o bob math.

17:35 Stamina 888

Cyfres am chwaraeon eithafol.

Content options

18:00 Pen Campau'r SêR 888 / 889

Her rhwng Ysgol Bro Myrddin ac Ysgol Tryfan, Bangor fydd hi. Bydd cyn-gapten Cymru Steven Jones yn cystadlu yn erbyn Owain Tudur Jones, sy'n chwarae pêl-droed dros Gymru. Mae'n ornest yn gystadleuol ac yn hwyliog, gan fod y ddau yn adnabod ei gilydd yn dda, ond pêl gron neu hirgron fydd yn ennill y dydd?

18:30 Stwffio - Llanelli 888

Coginio selsig yn Llanelli mae Alun Williams a'i ffrind Anthony Evans yr wythnos yma - selsig o bob maint a siâp! Draw ym Moroco, mae Alun yn trio rhywbeth arbennig iawn i'w fwyta. Tybed a fyddai unrhyw un arall yn hoffi trio ymennydd dafad?!

19:00 Wedi 7 888

Bydd Gerallt yn trafod arddangosfa ym Mangor sy'n edrych ar hanes y gymdeithas Iddewig yng Nghymru. Yn y stwidio i drafod ei thaith diweddar i Batagonia er mwyn recordio rhifyn o "Beti a'i Phobl" bydd y gyflwynwraig Beti George.

Content options

19:30 Newyddion 888

Newyddion.

19:58 Y Tywydd

Y Tywydd.

20:00 Pobol y Cwm 888 / 889

Mae perthynas Hywel a Ffion yn mynd o ddrwg i waeth pan fo Hywel yn colli'i dymer. Mae Mark a Dani yn cyhoeddi eu bod wedi dyweddïo. Mae Griffiths yn llyncu ei falchder o'r diwedd wrth iddo drefnu cyfarfod.

Content options

20:25 Cwpwrdd Dillad 888 / 889

Pa ddillad y dylai gwleidydd eu gwisgo ar gyfer ei waith yn y Cynulliad? Bydd yr AC Alun Davies yn derbyn cyngor gan y steilydd yn y rhaglen heddiw. Bydd Ani Saunders, sydd â gradd mewn ffasiwn a Llior Roberts, sy'n byw a gweithio yn Llundain fel cynllunydd ffasiwn, hefyd yn dangos cynnwys eu cypyrddau dillad.

Content options

20:55 Y Tywydd

Y Tywydd.

20:57 Penawdau Newyddion 888

Penawdau newyddion.

21:00 Y Ty Cymreig - Tai Fictoraidd 888 / 889

Cyfres sy'n edrych ar bensaernïaeth tai Cymru yng nghwmni Aled Samuel a'r arbenigwr, Dr Greg Stevenson. Bydd y rhaglen hon yn olrhain hanes tai Fictoraidd Cymru ac yn ymweld â Thy Osbourne yn Llandudno, Plasdy Gwynfryn yn Llanarth a Chastell Coch a Gerddi Plasturton yng Nghaerdydd.

Content options

21:30 CF99 888

Rhaglen drafod wleidyddol o Oriel y Cynulliad Cenedlaethol yng nghwmni Vaughan Roderick a Bethan Rhys Roberts.

Content options

22:00 Y Tywydd

Rhagolygon y tywydd.

22:02 Rasus ar Garlam 888

Bydd Brychan Llyr a Shan Cothi yn mwynhau holl uchafbwyntiau rasus Helfa Tivyside, Cilwendeg, gan ddilyn pob cymal o'r rasio i weld pwy a ddaw i'r brig?

Content options

22:30 Mawr 888 / 889

Tair merch heibio eu 21ain yn bell sy'n gwirioni ar ddynion, dysgwr Cymraeg efo steil gwallt braidd yn hen ffasiwn, a heddwas digon annwyl. Dyma rhai o'r cymeriadau sydd i'w gweld yn y gyfres gomedi gwallgof Mawr!

23:00 Sgorio 888

Ymunwch â Morgan Jones yn fyw o'r stiwdio wrth iddo gyflwyno uchafbwyntiau pêl-droed o Ewrop a thu hwnt. Bydd Nic Parry yn ymuno â Morgan wrth iddo arwain trafodaeth ar bynciau llosg y dydd o fyd y bêl gron yng nghwmni panel o westeion. Bydd cyfle i'r gwylwyr ymuno ym mwrlwm y drafodaeth drwy e-bostio a danfon neges destun.

23:58 Y Tywydd

Rhagolygon y tywydd.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales