Neidio at y cynnwys

S4C

S4C feeds

Sut ydw i'n dechrau arni?

rss icon

Bydd angen i chi danysgrifio drwy ddefndydio RSS (Really Simple Syndication). Mae dewis o wahanol gynnwys y gallwch danysgrifio iddo - does dim rhaid i chi danysgrifio i bopeth. Falle yr hoffech wybod am raglenni newydd sydd wedi eu hychwanegu i'n adran Wylio neu falle danysgrifio i newyddion diweddaraf S4C. Mae rhestr y cynnwys sydd ar gael drwy RSS i'w weld yma.

Sut mae'n gweithio felly?

Mae RSS yn eich caniatau i weld cynnwys newydd wrth iddo gael ei ychwanegu ar dudalennau gwe S4C. Wedi i chi danysgrifio i unrhyw gynnwys RSS ar ein gwefan a phan gyhoeddir y cynnwys, byddwch yn cael eich hysbysu drwy ddarllenydd newyddion heb orfod cofio i ymweld â phob adran o'r wefan bob diwrnod.

Beth yw darllenydd newyddion?

Mae darllenydd newyddion yn eich caniatau i danysgrifio i gynnwys S4C, yn dangos pa gynnwys newydd a'n eich caniatau i ddilyn dolen yn ôl at y dudalen â'r cynnwys gwreiddiol arni.

Rhowch gynnig arni

Nid oes darllenydd newyddion arbennig gyda S4C ond mae'n ddigon hawdd i ddod o hyd iddyn nhw ar y we. Rhowch 'RSS reader' yn eich peiriant chwilio ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau.

Y ffordd hawsaf i weld os oes cynnwys RSS ar gael i'w danysgrifio iddo ar unrhyw rhai o dudalennau S4C, yw edrych am yr eicon oren RSS.

diagram showing where to find rss feeds on S4C's website

Cynnwys RSS o wefan S4C...

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales