Neidio at y cynnwys

S4C

Gwasanaethau Atodol

owl icon

Isdeitlau Saesneg 888

Mae S4C yn ehangu apêl eu rhaglenni drwy ddefnyddio isdeitlau Saesneg. Maent yn addas ar gyfer y di-Gymraeg, aelwydydd ieithyddol cymysg ac i'r byddar a'r trwm eu clyw. Mae'r gwasanaeth yma ar gael ar dudalen 888 ar Teletestun, a thrwy ddulliau eraill hefyd ar raglenni cydamserol ar ddigidol. Darlledir nifer o raglenni hefyd gydag isdeitlau agored (BIST) fel arfer yn ail ddarllediadau o ddramâu poblogaidd, ynghyd â rhaglenni eraill. Mae isdeitlau hefyd ar gael wrth wylio rhaglenni ar y we, yn gwylio yma. Trefnir fod isdeitlau ar gyfer y byddar a'r trwm eu clyw a ddarperir gan Channel 4, hefyd ar gael pan ddarlledir neu ail-ddarlledir y rhaglenni yma ar S4C.

owl icon

Isdeitlau Cymraeg (889)

Mae gwasanaeth isdeitlau Cymraeg ar gael ar dudalen 889 ar Teletestun. Mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr Cymraeg a'r byddar a'r trwm eu clyw Cymraeg eu hiaith i fwynhau rhaglenni Cymraeg S4C. Mae'r gwasanaeth a ddarperir i S4C gan Acen Cyf yn cynnwys seiniau arbennig i wylwyr byddar. Darperir 10 awr o isdeitlau Cymraeg yr wythnos. Mae unrhyw raglen sydd â'r gwasanaeth hwn wedi'i nodi yn erbyn y rhaglen yna ar y dudalen amserlenni.

audio description icon

Sain ddisgrifio

Mae gwasanaeth sain ddisgrifio ar gael ar gyfer y deillion a'r rhannol ddall. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys disgrifiadau ychwanegol sy'n cyfoethogi mwynhad y gwyliwr.

Sain ddisgrifio yw sylwebaeth lafar i lenwi'r cyfnodau tawel mewn rhaglen pan nad oes unrhyw ddeialog. Mae'r gwasanaeth yn galluogi gwylwyr sydd â phroblemau gweld i fwynhau rhaglen yn annibynnol, heb fod angen person sy'n gallu gweld i esbonio yr hyn sydd ar y sgrîn. Mae'r gwasanaeth hwn ond ar gael ar S4C digidol.

Mae'r sylwebaeth yn cynnwys disgrifiadau o ddilyniant mewn plot, mynegiant gweledol, iaith y corff, gwisg a golygfeydd.

Arwyddo

Mae rhai rhaglenni ar S4C Digidol yn cael eu dangos gydag arwyddwr BSL (British Sign Language) ar ochr y sgrîn...gwybodaeth bellach...

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales