CROESO I WEFAN Y BYD AR BEDWAR
Y Byd ar Bedwar yw’r unig gyfres materion cyfoes sydd wedi bod ar S4C ers dyddiau cynta’r sianel yn 1982, ac mae’n un o gonglfeini’r gwasanaeth. Mae’r rhaglen yn cynnig newyddiaduraeth ymchwiliadol o’r safon uchaf, ac yn torri straeon newydd yn gyson. Mae’r tîm profiadol o newyddiadurwyr yn gweithio ar hyd a lled Cymru, ac yn chwilio am straeon newydd bob dydd.
YR WYTHNOS HON AR 'Y BYD AR BEDWAR': 08.7.08 20:25
UFOs
Faint o sail sydd i honiadau diweddar bod UFOs wedi ymweld â Chymru?
Heno byddwn ni’n holi’r tystion sy’n dweud bod nhw wedi gweld pethau rhyfedd yn yr awyr dros y deufis diwetha, ac un dyn sy’n haeru bod e wedi cael ei gipio gan rywun o’r gofod.
Tystion dibynadwy neu ddychymyg byw?
I weld rhai o raglenni diweddaraf Y Byd ar Bedwar cliciwch yma.
I ymweld â wefan Hacio cliciwch yma.
8.25PM
POB NOS FAWRTH
S4C