Neidio at y cynnwys

S4C

Adroddiad Blynyddol

Adroddiad Blynyddol 2007

Mae Awdurdod S4C heddiw (Dydd Mercher, 11 Mehefin) wedi cyflwyno ei Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon 2007 gerbron y Senedd.

Mae'r Adroddiad yn adlewyrchu blwyddyn o gynnydd i S4C, ac y mae’r pwyslais ar ragoriaeth greadigol yn dal i ddwyn ffrwyth. Mae S4C nawr yn paratoi ar gyfer her y newid i ddigidol yng Nghymru yn ystod 2009/2010 a lansiad yn ddiweddarach y mis hwn o'r gwasanaeth estynedig i blant meithrin, Cyw.

Mae cyflwyno Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon S4C i'r Senedd yn ddyletswydd statudol ar Awdurdod S4C o dan Ddeddf Ddarlledu 1990.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Swyddfa'r Wasg ar 029 20 741 452.

Rydym yn awyddus i dderbyn unrhyw sylwadau neu gwestiynau sydd gennych ynglyn â'r Adroddiad Blynyddol. Y cyfeiriad ar gyfer unrhyw ymholiadau yw:
Mr Phil Williams,
Ysgrifennydd yr Awdurdod,
S4C,
Parc Tŷ Glas,
Llanisien,
Caerdydd CF14 5DU
E-Bost: phil.williams@s4c.co.uk

Gellir cael copïau caled o'r Adroddiad Blynyddol oddi wrth:
Gwifren Gwylwyr S4C,
Parc Tŷ Glas,
Llanisien,
Caerdydd
CF14 5DU
Rhif ffôn: 0870 600 4141
Rhif ffacs: 029 20741457
E-bost: gwifren@s4c.co.uk

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales